Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (276)v4 |
Cwestiwn Brys
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn y sylwadau cychwynnol a wnaeth y Prif Weinidog ar y digwddiadau trychinebus yn Nhiwnisia, a wnaiff ddatganiad llawn ar ei ddealltwriaeth o’r sefyllfa bresennol? EAQ(4)2387(FM) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020 – y wybodaeth ddiweddaraf (30 munud) |
4 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol – flwyddyn ers ei chyflwyno (30 munud) |
5 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Donaldson (30 munud) |
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Metro (30 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 mins) |
7 Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015 NDM5795 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin 2015. Dogfennau Ategol |
8 Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015 NDM5796 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn
cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Byrddau Diogelu
(Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn
unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9
Mehefin 2015. Dogfennau Ategol |
9 Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Cam Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 (15 munud) NDM5797 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2015. Dogfennau Ategol |
10 Dadl ar Adroddiad Gweinidogion Cymru ar gydymffurfiaeth â’r ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (60 munud) NDM5798 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mehefin 2015. Mae'r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ar gael yma: http://www.legislation.gov.uk/mwa/2011/2/contents/enacted/welsh. Dogfen Ategol Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'r cyhoedd yn gyffredinol. |
11 Cyfnod pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 1 Gorffennaf 2015